Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (82)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14:32
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cefnogi Myfyrwyr Cymreig - wedi’i ohirio tan 2 Hydref
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol: dogfen ymgynghori a gyhoeddwyd ar 20 Medi
Dechreuodd yr eitem am 14:47
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Canlyniadau TGAU Saesneg Iaith 2012
Dechreuodd yr eitem am 15:12
6. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyngor Sir Ynys Môn
Dechreuodd yr eitem am 15:49
7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Cynllun llaeth – y wybodaeth ddiweddaraf ar gefnogaeth i’r diwydiant llaeth
Dechreuodd yr eitem am 16:25
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio
Dechreuodd yr eitem am 16:57
NDM5012 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Mai 2012 sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9. Dadl ar Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru: Adroddiad gan y Grŵp Cynghori Annibynnol
Dechreuodd yr eitem am 17:00
NDM5047 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol, Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
- Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu system achredu ar gyfer asiantau cynllunio.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella capasiti’r system gynllunio drwy ddatblygu un Gwasanaeth Cyngor a Hyfforddiant Cynllunio Cenedlaethol i gynorthwyo adrannau cynllunio lleol i hyfforddi a datblygu eu staff.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
12 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth yr oedi sylweddol gan
Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno ei Bil Cynllunio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
33 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
NDM5047 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol, Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu system achredu ar gyfer asiantau cynllunio.
Yn gresynu wrth yr oedi sylweddol gan Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno ei Bil Cynllunio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y cyfnod pleidleisio am 17:43
Daeth y cyfarfod i ben am 17:45
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 26 Medi 2012